Beth yw Llefaru Casineb Arlein?

Mae cyfryngau cymdeithasol, megis Twitter, Facebook, Instagram a YouTube, yn cael eu defnyddio gan y cyhoedd er mwyn cyhoeddi cynnwys arlein. Mae’r rhan fwyaf o gyfathrebiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddibwys a diniwed eu natur (megis cyhoeddi gweithgareddau dyddiol, barn ar raglenni teledu, rhannu lluniau a fideos gan ffrindiau neu deulu).

Serch hynny, mae cyfran fach o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn postio sylwadau a all gael eu gweld yn rhai gelyniaethus neu atgas tuag at unigolion a chymunedau ehangach. Gall cynnwys atgas a ddanfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol sydd wedi ei gyfeirio at unigolion ar sail eu hunaniaeth, megis hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd a hunaniaeth drawsryweddol, ei ystyried yn drosedd (gwelwch yr adran nesaf).

Gall cyhoeddiadau atgas ar y cyfryngau cymdeithasol , p’un ai eu bod yn cael eu gweld fel trosedd ai peidio, fod yn niweidiol iawn i unigolion a chymunedau.

facebook


Ydy postio atgas ar y cyfryngau cymdeithasol yn drosedd?

Mae’r Heddlu a Gwasnaethau Erlyn y Goron yn ystyried pob trosedd casineb yn ddifrifol, oherwydd gall gael effaith dwys a hir dymor ar ddioddefwyr, gan eu gwneud i deimlo’n anniogel yn y gymuned. Mae trosedd casineb yn cynnwys troseddau sydd yn codi drwy rhesymau o elyniaeth tuag at hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhyw neu hunaniaeth drawsrywiol y dioddefwr.

Bydd posio atgas ar y cyfryngau cymdeithasol (heblaw am y rheiny sy’n cyfateb i droseddau penodedig yn eu hunain megis bygwth lladd, blacmel, stelcio ayyb) yn cael eu hystyried yn drosedd os yw:

  • Eu cynnwys yn ddifrifol o ymosodol

  • Eu cynnwys yn fygythiol neu gamdriniol ac yn bwriadau neu yn debygol o gyffroi casineb hiliol

  • Eu cynnwys yn fygythiol ac yn bwriadu cyffroi casineb ar sail crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol

Os gwelwch unrhyw gyhoeddiadau sydd yn eich barn chi yn torri’r gyfraith, dylwch ei riportio naill ai i’r heddlu lleol neu drwy wefan True Vision (http://www.report-it.org.uk/wales).


Sut mae patrymau llefaru casineb arlein yn edrych?

Ers i’r Rhyngrwyd gael ei ddefnyddio yn ein cartrefi, mae llefaru casineb wedi bod yn bresennol mewn rhyw fodd. Cyn y cyfryngau cymdeithasol, roedd llefaru casineb yn cael ei ddefnyddio ar dudalennau statig ar y we, fel rheol wedi’u creu gan grwpiau casineb. Mae’r gwefannau yma yn hyrwyddo amcanion y grwpiau yma, gan geisio recriwtio pobl o’r un meddylfryd.

Nid yw gwefannau sy’n hyrwyddo annogaeth casineb tuag at leiafrifoedd yn cael eu caniatáu yn y DU, ond mae llawer dal i fodoli ar y Rhyngrwyd gan eu bod wedi eu lletya mewn gwledydd lle mae’r gyfraith yn wahanol. Er enghraifft, yn yr Amerig caniateir gwefannau sy’n cynnwys gwybodaeth a all gael ei ystyried yn atgas gan bobl yn y DU, oherwydd cyfreithiau penodedig sy’n amddiffyn ‘rhyddid i lefaru’ yng nghyfansoddiad yr UD.

Mae poblogrwydd anferthol cyfryngau cymdeithasol wedi caniatáu pobl sy’n meddu ar farn atgas ar leiafrifoedd i ledaenu eu negeseuon eithafol ymhellach nag erioed. Bu i ymchwilwyr yn y Ffindir ganfod bod 67 y cant o bobl 15 i 18 mlwydd oed gael eu gadael yn agored i ddeunydd casineb ar Facebook a YouTube, gyda 21 y cant yn dod yn ddioddefwyr o’r fath ddeunydd. Bu i brosiect ‘Tell MAMA’ (Measuring Anti-Muslim Attacks) (http://tellmamauk.org) ganfod fod 74 y cant o’r holl deimladau gwrth-Fwslemaidd a gafwyd eu riportio ar y wefan, wedi digwydd arlein.

twitter


Sut mae gweithgareddau yn ‘y byd all-lein’ (tu hwnt i’r we) effeithio llefaru casineb ar y cyfryngau cymdeithasol?

Mae ymchwil wedi dangos y gall troseddau casineb ar y strydoedd gynyddu yn dilyn math arbennig of ddigwyddiadau. Er enghraifft, gwnaeth yr heddlu recordio cynydd mewn troseddau casineb yn dilyn ymosodiadau terfysgol yn 9/11 yn yr UD a 7/7 yn y DU, ac yn dilyn y refferendwm ar ein dyfodol yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ymchwil wedi dangos hefyd bod defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn postio ymatebion atgas yn sydyn wedi ymosodiadau terfysgol diweddar. Er enghraifft, yn dilyn llofruddiaeth Lee Rigby yn Woolwich, gwaneth rhai defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol ledaenu negeseuon atgas ar Twitter wedi’u anelu at Fwslemiaid. Roedd rhai o’r trydarwyr yn uniaethu â grwpiau gwleidyddol asgell dde, megis Cyngrair Amddiffyn Lloegr (EDL). Nid yw’r ymateb i’r math yma o ddigwyddiadau fel rheol yn para yn hir, gyda nifer y negeseuon casineb yn dychwelyd i lefelau arferol o fewn diwrnodau neu wythnosau.


Beth yw effaith llefaru casineb ar y cyfryngau cymdeithasol?

Bu i’r Prosiect Trosedd Casineb Cymru Gyfan ofyn i ddioddefwyr ynghylch effaith negyddol troseddau a digwyddiadau casineb. Gall troseddau casineb gael effaith gorfforol a/neu seicolegol mawr ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach:

  • Gwnaeth bron i bumed o ddioddefwyr geisio cuddio eu hunaniaeth

  • Bu i drydydd o ddioddefwyr feddwl am adael eu hardal leol

  • Bu i un o bob saith o ddioddefwyr trosedd casineb hel meddyliau o ran hunanladdiad

  • Roedd dioddefwyr o ailadrodd erledigaeth dros bedwar gwaith yn fwy tebygol nag unrhyw ddioddefwr arall i gael profiad o feddwl am hunanladdiad

  • Mae bod yn ddiwaith a’r teimlad o fod wedi allgau’n gymdeithasol yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddioddef sawl math o effaith negyddol

  • Mae dioddefwyr troseddau treisgar yn llawer fwy tebygol o ddioddef effeithiau negyddol

Bu i adroddiad gan Tell Mama ganfod fod dioddefwyr llefaru casineb arlein wedi profi bygythiadau trais, sylwadau hiliol, a chreadigaeth proffiliau ffug at ddibenion aflonyddu. Bu i ddioddefwyr arlein son am brofi iselder, straen emosiynol, gorbryder ac ofn.

insta


Beth dylwn i wneud os gwelaf gyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n ymddangos fel llefaru casineb?

Gall pob math o lefaru casineb arlein gael effaith negyddol ar unigolion, grwpiau a chymunedau. Mewn rhai achosion, gall lefaru casineb arlein fod yn gyfateb i drosedd, ac os ydych yn amau hyn, dylwch ei riportio i’r heddlu.

Os nad ydych o’r farn fod llefaru casineb y gwelwch yn ddigon difrifol i’w riportio i’r heddlu, efallai y dymunwch herio cyhoeddwr y sylw. Gelwir hyn yn ‘gwrth lefaru’, ac mae hwn wedi profi’n effeithiol wrth atal pobl rhag postio negeseuon atgas pellach.

Serch hynny, nid yw pob math o wrth-lefaru yn dderbyniol neu’n effeithiol wrth atal llefaru casineb. Er enghraifft, gall gwrth lefaru sy’n sarhau cyhoeddwr y sylwadau atgas weithiau waethygu’r sefyllfa, gan annog taro’n ôl drwy mwy o lefaru casineb. Os ydych yn penderfynu defnyddio gwrth-lefaru, byddai’n well dilyn y canllawiau canlynol er mwyn osgoi gwaethygu’r sefyllfa:

  • Osgoi defnyddio geiriau sarhaus neu atgas

  • Rhoi dadleuon da sy’n gwneud synnwyr

  • Gofyn am wybodaeth o’r person sy’n potio’r atgasedd os ydych o’r farn eu bod wedi gwneud honiadau anwir

  • Datgan y byddwch yn riportio i’r heddlu neu drydydd parti os yw’r llefaru casineb yn parhau a/neu’n gwaethygu (e.e. yn dod yn ymosodol tu hwnt, yn troi’n aflonyddu neu’n cynnwys bygythiadau)

  • Annog eraill i ymgymryd â gwrth-lefaru gyda chi


Sut gallaf riportio llefaru casineb ar y cyfryngau cymdeithasol?

Mae’r Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron o’r farn fod pob trosedd casineb yn ddifrifol, gan y gall gael effaith dwfn a hir dymor ar ddioddefwyr, gan greu ymdeimlad o berygl yn y gymuned. Os ydych o’r farn eich bod wedi bod yn dioddef casineb arlein, neu os ydych wedi bod yn dyst i rywun arall sydd wedi’u targedi gan lefaru casineb arlein, dylwch riportio i’r heddlu bob tro.

Gellir gwneud adroddiadau yn uniongyrchol i’r heddlu neu drwy’r wefan True Vision (http://report-it.org.uk/wales). Platfform arlein yw’r wefan ar gyfer riportio troseddau casineb ac mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer dioddefwyr. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar yr hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn riportio trosedd, awgrymiadau ar ddiogelwch personol, a sefydliadau gall gynnig cefnogaeth. Mae hefyd ap ffôn symudol True Vision y gellir ei lawrlwytho ar eich ffôn symudol er mwyn cael mynediad hwylus a chyflym (gweler isod).

YT


Astudiaethau Achos

TMae’r astudiaethau achos isod yn dangos sut mae’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymdrîn â defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol sy’n cyhoeddu negeseuon roedd eraill o’r farn eu bod yn atgas. Mae’r ddau astudiaeth achos yn dangos sut y bu i’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron ymdrîn â defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol a gyhoeddodd negeseuon ymosodol a bygythiol wedi’u anelu at unigolion. Mae’r trydydd achos yn dangos sut bu i’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron ymdrîn â defnyddiwr a gyhoeddodd neges atgas nad oedd yn ddifrifol o ymosodol nac yn cynnwys bygythiadau.

Astudiaeth Achos 1:

Yn 2012, gwnaeth Liam Stacey sawl sylw cas ar y cyfyngau cymdeithasol tuag at beldroediwr proffesiynol a ddioddefodd o drawiad ar y galon ar y cae. Cafodd yr Heddlu lwyth o gwynion gan aelodau’r cyhoedd a fu i riportio ar sylwadau Stacey. Dechreuodd y neges gyntaf gyda “LOL [laugh out loud]. F*** Muamba. He’s dead!!!” Bu i sawl person ymateb iddo arlein gan ddefnyddio gwrth-lefaru ond fe wnaeth daro nôl gan bostio mwy o sarhadau ymosodol a hiliol, gyda rhai o natur rhywiol. Cafodd Liam Stacey ei ddedfrydu i 56 niwrnod yn y carchar. Hwn oedd yr achos gyntaf yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol a fu o flaen y llys yn Lloegr a Chymru.

Astudiaeth Achos 2:

Yn 2014, cafodd Isabella Sorley a John Nimmo eu carcharu am ymosod ar yr ymgyrchydd ffeministaidd Caroline Criado-Perez. Cafodd Isabella Sorley ei charcharu am 12 wythnos a chafodd ei chyd-diffynnydd John Nimmo ei garcharu am 8 wythnos am ymddygiad bygythiol. Defnyddioad Isabella Sorley Twitter i ddweud wrth yr ymgyrchydd Criado-Perez “f*** off and die you worthless piece of c**p”, “go kill yourself” a “rape is the least of your worries”. Dywedodd John Nimmo wrth Criado-Perez “shut up b****” a “Ya not that gd looking to rape u be fine” wedi ei ddilyn gan “I will find you [smiley face]”. Bu i’r ddau bledio’n euog i drydaru bygythiol, gan gyfaddef eu bod ymysg defnyddwyr 86 cyfrif Twitter gwahanol lle y danfondwyd negeseuon difrïol at Criado-Perez. Cafodd Caroline Criado-Perez ei niweidio gymaint gan y gamdriniaeth bu iddi dderbyn ar Twitter, bu iddi osod botwm panig yn ei chartref.

Astudiaeth Achos 3:

Yn 2012, arestiwyd Daniel Thomas wedi i neges homoffobig ddanfonodd ynghylch y deifwyr Olympaidd Tom Daley a Peter Waterfield yn feiryddol (‘viral’). Wedi ei arestio, ni chafodd Thomas ei erlyn gan y penderfynnwyd nad oedd y neges mor ddifrifol ymosodol i beru cyhuddiad troseddol. Dim ond un neges trydar homoffobig ei natur a gafodd ei ddanfon, nid oedd yn fygythiol, ac nid oedd yn annog eraill ei ddanfon negeseuon atgas tebyg. Nid y bwriad oedd i gyrraedd y deifwyr yn uniongyrchol gan y bwriad oedd rhannu â theulu a ffrindiau. Cafodd y trydariad ei ddileu gan Daniel Thomas yn y pen draw, ac roedd wedi dyfaru ei gyhoeddi. Cysylltwyd â Tom Daley a Peter Waterfield gan Wasanaeth Erlyn y Goron a bu i’r ddau gytuno na ddylid erlyn Daniel.

lower-banner_english

 

Ffynonellau Gwybodaeth Ychwanegol:

Gwefan True Vision: http://www.report-it.org.uk
Gellir riportio troseddau casineb arlein ac all-lein (tu hwnt i’r we) i’r heddlu drwy’r wefan hon

Ap ffôn True Vision: yma
Gellir riportio troseddau casineb arlein ac all-lein drwy’r ap ffôn symudol hwn

Fideo #TakeCareofYourDigitalSelf Prosiect Digital Wildfire: https://www.youtube.com/watch?v=5nXaEctiVhs

Mae’r fideo wedi ei anelu yn arbennig at blant 9 i 13 mlwydd oed dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Fideo ‘Beth sy’n gwneud dinesydd digidol da ar y cyfryngau cymdeithasol?’ Prosiect Digital Wildfire:https://www.youtube.com/watch?v=kh1_7VVoq8g

Gofynodd Prosiect Digital Wildfire i bobl ifanc “Beth sy’n gwneud dinesydd digidol da ar y cyfryngau cymdeithasol?’ Mae’r fideo yn dangos rhai o’r ymatebion.

 

 CU  R&S  photo  esrc