Beth yw Llefaru Casineb Arlein?

Mae cyfryngau cymdeithasol, megis Twitter, Facebook, Instagram a YouTube, yn cael eu defnyddio fwyfwy gan y cyhoedd er mwyn cyhoeddi cynnwys arlein. Mae sawl ffurf i gyfathrebiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys cyhoeddi testun, delweddau a fideo. Mae’r rhan fwyaf o gyfathrebiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddibwys a diniwed eu natur (e.e. diweddariadau ar weithgareddau dyddiol, barn ar raglenni teledu, rhannu lluniau a fideos gan ffrindiau neu deulu)

Serch hynny, mae cyfran leifrifol o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn postio sylwadau gelyniaethus ac atgas wedi’u cyfeirio at unigolion a chymunedau ehangach. Mae’n bosib i gyfathrebu atgas drwy’r cyfryngau cymdeithasol sydd wedi ei gyfeirio at unigolion ar sail eu nodweddion personol, megis hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd a hunaniaeth drawsryweddol, fod yn gyfateb i drosedd (gwelwch yr adran nesaf).

Tra nad yw pob cyhoeddiad gelyniaethus a/neu atgas ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyfateb i drosedd, gall eu heffaith niweithiol ar yr unigolyn neu grwp/cymuned y’u cyfeirir atynt fod yn sylweddol.


Y Gyfraith mewn perthynas â Llefaru Casineb Arlein

Mae’r Heddlu a Gwasnaethau Erlyn y Goron yn ystyried pob trosedd casineb yn ddifrifol, oherwydd gall gael effaith dwys a hir dymor ar ddioddefwyr unigol, gan danselio’r ymdeimlad o ddiogelwch yn y gymuned. Mae trosedd casineb yn cynnwys troseddau sydd yn codi drwy rhesymau o elyniaeth tuag at hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhyw neu hunaniaeth drawsrywiol.

Mae trosedd casineb yng Nghymru a Lloegr yn cael ei erlyn o dan ystod o ddeddfwriaeth yn cynnwys Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998, Deddf Cyfathrebiadau 2003, Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997, a Deddf Troseddau yn Erbyn Person 1861 a’r darpariaethau ar gyffroi yn Rhan III o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.

Bydd cyhoeddiadau atgas ar y cyfryngau cymdeithasol (heblaw am y rheiny sy’n cyfateb i droseddau penodedig yn eu hunain megis bygwth lladd, blacmel, stelcio ayyb) yn cael eu hystyried yn drosedd os yw:

  • Eu cynnwys yn ddifrifol o ymosodol

  • Eu cynnwys yn fygythiol neu gamdriniol ac yn bwriadau neu yn debygol o gyffroi casineb hiliol

  • Eu cynnwys yn fygythiol ac yn bwriadu cyffroi casineb ar sail crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol

Mae’n bwysig nodi wrth ystyried achosion unigol sy’n ymwneud â chyfathrebiadau atgas, bod erlynwyr yn gweithredu yn ôl trothwy uchel wrth gasglu tystiolaeth ac ystyried os yw erlyn er lles y cyhoedd yn seiliedig ar natur y cyfathrebu a’r effaith ar y dioddefwr.

Mae’n rhaid iddynt hefyd fod wedi’u bodloni nad yw’r cyfathrebiad wedi ei amddiffyn o dan egwyddor rhyddid i lefaru (o dan Erthygl 10) o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy’n caniatáu’r rhyddid i achosi tramgwydd.

Dylai ymarferwyr gyfeirio at Ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar erlyn achosion yn ymwneud â chyfathrebiadau wedi eu danfon drwy’r cyfryngau cymdeithasol am fanylion pellach (http://www.cps.gov.uk/legal/a_to_c/communications_sent_via_social_media/).


Patrymau Llefaru Casineb Arlein

Mae ymchwil academaidd wedi adnabod nifer o batrymau o lefaru casineb ar y Rhyngrwyd. Bu i Levin (2002) astudio sut y bu i grwpiau asgell dde yn yr Unol Daleithiau (UD) hyrwyddo eu hamcanion arlein heb fawr o herio drwy orfodi cyfreithiol, gan ddod i’r casgliad fod y cyfryngau arlein wedi bod yn ddefnyddiol i’r rhai sydd am godi casineb oherwydd eu bod yn i) economaidd; ii) pell gyrhaeddol; a iii) wedi eu hamddiffyn gan Welliant Cyntaf Unol Daleithiau’r Amerig. Tra bod rhyddid i lefaru yn wahanol yn y DU, mae’r canfyddiad yma’n bwysig gan fod y rhan fwyaf o gwmnïau cyfryngau cymdeithasol arbennigol wedi’u lleoli yn yr UD ac yn dilyn egwyddorion cyfansoddiad yr UD.

Bu i Perry ac Olsson (2009) ganfod fod y Rhyngrwyd wedi creu gofod cyffredin newydd sy’n ennyn ‘hunaniaeth gasgliadol’ ar gyfer grwpiau casineb a fu gynt ar chwâl, gan gryfhau eu presenoldeb domestig mewn gwledydd megis yr UD, yr Almaen a Sweden. Maent yn rhybuddio y gall ‘is- ddiwylliant bydol hiliol’ godi os na fydd llefaru casineb arlein yn cael ei herio.

Bu i Leets (2001) ganfod drwy astudiaeth o effaith tudalennau arlein mewn perthynas â chasineb fod y rhai sy’n ymateb o’r farn fod gan gynnwys y tudalennau yma effaith anuniongyrchol ond bygythiol ar unigolion a chymunedau, gan greu gorbryder ac ymdeimlad o allgáu.

Bu i brosiect ‘Tell MAMA’ (Measuring Anti-Muslim Attacks) (http://tellmamauk.org) ganfod fod 74 y cant o’r holl deimladau gwrth-Fwslemaidd a gafwyd eu riportio ar y wefan, wedi digwydd arlein.

Dangosodd astudiaeth o Wlad y Ffindir, Oksanen et al. (2014) sut y bu i 67 y cant o bobl 15 i 18 mlwydd oed gael eu gadael yn agored i ddeunydd casineb ar Facebook a YouTube, gyda 21 y cant yn dod yn ddioddefwyr o’r fath ddeunydd. Mae’r astudiaeth olaf hwn yn tystiolaethu sut fod twf platfformiau cyfryngau cymdeithasol wedi dod â chynnydd mewn seibergasineb.

Mae sawl adnodd sy’n dilyn patrwm llefaru casineb byd eang. Ar Twitter, mae’r mannau ‘sentinel’ @YesYoureRacist, @YesYoureGaycist a @YesYoureSexist yn dilyn cynnyrch trydaru hiliol, homoffobig a rhywiaethol gan herio unigolion sy’n defnyddio iaith casineb arlein.
Mae’r wefan www.nohomophobes.com yn dilyn trydar homoffobig ac yn dangos fod dros 50 miliwn trydar (yn rhyngwladol) yn cynnwys braweddgau homoffobig ers iddi ddechrau monitro yn 2012.

Mae ‘Hate Speech Watch’ (http://www.nohatespeechmovement.org/) yn fas data arlein Ewropeaidd wedi ei sefydlu i fonitro, rhannu a thrafod cynnwys llefaru casineb ar y We.


Llefaru Casineb a Digwyddiadau Sbarduno

Mae ymchwil wedi dangos fod nifer achosion a difrifoldeb trosedddau casineb all-lein (tu hwnt i’r we) wedi eu dylanwadu yn y tymor byr gan ddigwyddiadau unigol neu gasgliad o ddigwyddiadau. Mae gweithrediadau o derfysgaeth wedi dangos i ddylanwadu nifer achosion o deimladau, troseddau casineb a digwyddiadau yn erbyn mewnfudwyr.

Ar draws Ewrop, bu i Legewie (2013) ganfod cysylltiad rhwng teimladau yn erbyn mewnfudwyr a bomio terfysgol Bali a Madrid, yn yr UD bu i King a Sutton (2014) ganfod cysylltiad rhwng gweithrediadau o derfysgaeth a chynnydd mewn digwyddiadau o droseddau casineb, ac yn y DU, bu i Hanes a Machin (2014) ganfod cynnydd mawr mewn troseddu casineb a gafwyd eu riportio i’r heddlu yn Llundain yn dilyn 9/11 a 7/7.

Mae Williams a Burnap (2015) yn dangos fod, yn dilyn digwyddiadau sbarduno, megis gweithrediadau o derfysgaeth, defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn aml yw’r cyntaf i gyhoeddi ymateb. Yn dilyn lladd Lee Rigby yn Woolwich, defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol sy’n uniaethu â grwpiau gwleidyddol asgell dde oedd y mwyaf tebygol o gynhyrchu cynnwys atgas ar Twitter.

Fel casineb all-lein, dangoswyd fod seibergasineb yn cynyddu a lleihau’n sydyn o fewn 48 awr cyntaf ymosodiad, gan ddangos fod gan seibergasineb ‘hanner-bywyd’. Daeth Williams a Burnap (2015) i’r casgliad tra bod cyfryngau cymdeithasol yn gallu lluosogi seibergasineb o ystyried y nifer fawr o bobl sy’n defnyddio gwahanol blatfformiau i ledaenu ymdeimlad atgas, gall ei ledaeniad gael ei gyfyngu i ddefnyddwyr sy’n ymgymryd â gwrth-lefaru (gweler isod).


Effaith Llefaru Casineb Arlein

Bu i’r Prosiect Trosedd Casineb Cymru Gyfan ofyn i ddioddefwyr ynghylch effaith negyddol troseddau a digwyddiadau casineb. Gall troseddau casineb gael effaith gorfforol a/neu seicolegol mawr ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach:

  • Gwnaeth bron i bumed o ddioddefwyr geisio cuddio eu hunaniaeth

  • Bu i drydydd o ddioddefwyr feddwl am adael eu hardal leol

  • Bu i un o bob saith o ddioddefwyr trosedd casineb hel meddyliau o ran hunanladdiad

  • Roedd dioddefwyr o ailadrodd erledigaeth dros bedwar gwaith yn fwy tebygol nag unrhyw ddioddefwr arall i gael profiad o feddwl am hunanladdiad

  • Mae bod yn ddiwaith a’r teimlad o fod wedi allgau’n gymdeithasol yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddioddef sawl math o effaith negyddol

  • Mae dioddefwyr troseddau treisgar yn llawer fwy tebygol o ddioddef effeithiau negyddol

Tra bod diffyg gwybodaeth ar effaith casineb arlein ar ddioddefwyr yn bodoli ar hyn o bryd, gellir defnyddio canfyddiadau Prosiect Trosedd Casineb Cymru Gyfan. Bu i’r prosiect ganfod fod dioddefwyr anrhefn lefel isel mewn perthynas â chasineb (nodweddion sy’n gyffredin i lefaru casineb arlein) yn fwy tebygol o brofi effaith colli hyder, llefain, cuddio eu hunaniaeth, newid eu golwg a tharo nôl ar lafar. Mae’r dioddefwyr hyn hefyd yn llai tebygol o riportio i’r heddlu (gweler isod). Bu i adroddiad gan Tell Mama ganfod fod dioddefwyr o lefaru casineb arlein wedi profi bygythiadau trais, sylwadau hiliol, a chreadigaeth proffiliau ffug at ddibenion aflonyddu. Bu i ddioddefwyr arlein son am brofi iselder, straen emosiynol, gorbryder ac ofn.


Cyngor i’r rheiny sy’n gweld Llefaru Casineb Arlein

Gall pob math o lefaru casineb arlein gael effaith negyddol ar unigolion, grwpiau a chymunedau. Mewn rhai achosion, gall llefaru casineb arlein fod yn gyfateb i drosedd, ac yma dylai tystion a dioddefwyr ei riportio i’r heddlu

Serch hynny, nid yw pob llefaru casineb arlein yn cyfateb i drosedd. Yn yr achosion hyn, gall defnyddwyr y Rhyngrwyd ymwneud mewn ffordd rhesymol ac adeiladol er mwyn herio casineb ac o bosib ei atal rhag lledu.

Dulliau rhesymol ac adeiladol o herio llefaru casineb arlein

Mae gwrth-lefaru yn ymateb cyffredin i lefaru casineb arlein. Gall gwrth-lefaru arlein gael effaith bositif gan atal ymledu casineb a, pan yn ymwneud â grwpiau o bobl, yn atgyfnerthu ffiniau ymddygiad derbyniol.

Mae rhai manteision i wrthwynebu llefaru casineb gyda gwrth-lefaru dros ymatebion gan lywodraeth a’r heddlu: i) gall fod yn gyflym, ii) gall addasu i’r sefyllfa; a iii) gall gael ei ddefnyddio gan unrhyw ddefnyddiwr y Rhyngrwyd (e.e. aelodau’r cyhoedd, elusennau, y cyfryngau, a’r heddlu).

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu’r teipoleg canlynol o wrth-lefaru:

  • Cysylltu â Rhagfarn
    e.e. “Cywilydd ar hilwyr #EDL am fanteisio ar y sefyllfa hwn”

  • Gwneud honiadau ac apelio at rheswm
    e.e. “Nid yw hyn ddim i wneud ag Islam, nid yw pob Mwslim yn derfygwr!”

  • Gofyn am wybdaeth a thystiolaeth
    e.g. “Sut fod hyn yn unrhywbeth i wneud â lliw croen rhywun??”

  • Sarhau
    e.e. “Mae rhai cachgwn hiliol yn y byd!”

Mae tystiolaeth gychwynol o arbrofion parhaus gyda data cyfryngau cymdeithasol yn dangos fod gwrth-lefaru yn effeithiol wrth atal hyd sgyrsiau atgas ar y cyfryngau cymdeithasol pan fod cyfranwyr gwrth-lefaru unigryw lluosog yn ymwneud â’r person sy’n cynhyrchu’r llefaru casineb.

Serch hynny, nid yw pob math o wrth-lefaru yn adeiladol, ac mae tystiolaeth yn dangos fod unigolion sy’n sarhau yn erbyn pobl sy’n cynhyrchu llefaru casineb yn aml yn ymfflamychu’r sefyllfa, gan greu llefaru casineb pellach o ganlyniad. Pan yn ymgymryd â gwrth-lefaru, neu gynghori eraill ar ei ddefnydd, dylid dilyn yr egwyddorion canlynol wrth leihau tebygolrwydd cynhyrchu llefaru casineb pellach:

  • Osgoi defnyddio geiriau sarhaus neu atgas

  • Rhoi dadleuon rhesymegol a chyson

  • Gofyn am dystiolaeth os oes honiadau anwir neu amheus yn cael eu gwneud

  • Datgan y byddwch yn riportio i’r heddlu neu drydydd parti os yw’r llefaru casineb yn parhau a/neu’n gwaethygu (e.e. yn dod yn ymosodol tu hwnt neu’n cynnwys bygythiadau)

  • EAnnog eraill i ymgymryd â gwrth-lefaru hefyd


Sut i Riportio ar Lerfaru Casineb Arlein

Dangosodd y Prosiect Trosedd Casineb Cymru Gyfan fod dioddefwyr anrhefn casineb lefel isel a chyson yn osgoi gwneud riportio o’r math hyn o gasineb i’r heddlu gan a) ei fod yn digwydd mor reolaidd bod dioddefwyr yn dod i arfer ag ef, b) nid ydynt yn credu fod yr heddlu yn gallu gwneud unrhywbeth, c) maent yn aml yn ei weld fel rhywbeth di-nod ar ben ei hun, a ch) maent yn ansicr pa mor ddifrifol gall y digwyddiadau yma gael eu cymryd gan yr heddlu. Mae’n debygol fod gan ddioddefwyr llefaru casineb arlein ganfyddiadau tebyg ac yn bihafio mewn modd tebyg.

Mae’r Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron o’r farn fod pob trosedd casineb yn ddifrifol, gan y gall gael effaith dwfn a hir dymor ar ddioddefwyr unigol, gan danseilio eu hymdeimlad o ddiogelwch a sicrwydd yn y gymuned. Dylai unigolion bob amser gael eu hannog i riportio i’r heddlu os ydynt yn teimlo eu bod wedi’u targedi gan lefaru casineb arlein sy’n ddifrifol o ymosodol, bygythiol, aflonyddol neu’n annog eraill i ymwneud â gweithgareddau casineb cysylltiedig.

Gellir gwneud adroddiadau yn uniongyrchol i’r heddlu neu drwy’r wefan True Vision (http://report-it.org.uk/wales). Platfform arlein yw’r wefan ar gyfer riportio troseddau casineb ac mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer dioddefwyr ac eiriolwyr. Mae’n cynnwys strategaethau a pholisïau swyddogol sy’n ganllaw i’r heddlu a phartneriaid ynghylch sut i ymateb i ddigwyddiadau o gasineb, yr hyn sy’n digwydd pan fydd adroddiad o drosedd casineb yn cael ei wneud, tipiau diogelwch personol, a sefydliadau gall gynnig cefnogaeth. Mae’r wefan hon hefyd yn cynnig data ar drosedd casineb wedi ei ddiweddaru. Yn 2013 lawnsiwyd ap ffôn symudol True Vision i gefnogi’r wefan.


Astudiaethau Achos

Mae’r astudiaethau achos isod yn arddangos fod yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd llefaru casineb o ddifrif. Serch hynny, nid yw pob math o lefaru casineb arlein yn gyfateb i drosedd, fel mae Astudiaeth Achos 3 yn dangos.

Astudiaeth Achos 1:

Yn 2012, gwnaeth Liam Stacey sawl sylw atgas ar y cyfyngau cymdeithasol tuag at beldroediwr proffesiynol a ddioddefodd o drawiad ar y galon ar y cae. Cafodd yr Heddlu lwyth o gwynion gan aelodau’r cyhoedd a fu i riportio ar sylwadau Stacey. Dechreuodd y neges gyntaf gyda “LOL [laugh out loud]. F*** Muamba. He’s dead!!!” Bu i sawl person ei herio am ei farn ac fe wnaeth daro nôl gyda chyfres o sarhadau hiliol, rhai o natur rhywiol, wedi ei anelu at rheiny a fu i ymosod arno. Bu i Stacey frandio pobl a wnaeth ei farnu fel “wogs” a dywedodd wrth un “go pick some cotton”. Cafodd Stacey ei ddedfrydu i 56 niwrnod yn y carchar, wedi ei gyhuddo gan Ymosodiad Hiliol Gwaethygedig Adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986. Hwn oedd yr achos gyntaf yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol a fu o flaen y llys yn Lloegr a Chymru.

Astudiaeth Achos 2:

Yn 2014, cafodd Isabella Sorley a John Nimmo eu carcharu am ymosod ar yr ymgyrchydd ffeministaidd Caroline Criado-Perez. Cafodd Isabella Sorley ei charcharu am 12 wythnos a chafodd ei chyd-diffynnydd John Nimmo ei garcharu am 8 wythnos am ymddygiad bygythiol. Defnyddiodd Isabella Sorley Twitter i ddweud wrth yr ymgyrchydd Criado-Perez “f*** off and die you worthless piece of c**p”, “go kill yourself” a “rape is the least of your worries”. Dywedodd John Nimmo wrth Criado-Perez “shut up b****” a “Ya not that gd looking to rape u be fine” wedi ei ddilyn gan “I will find you [smiley face]”. Bu i’r ddau bledio’n euog i drydaru bygythiol, gan gyfaddef eu bod ymysg defnyddwyr 86 cyfrif Twitter gwahanol lle y danfondwyd negeseuon difrïol at Criado-Perez. Cafodd Caroline Criado-Perez ei niweidio gymaint gan y gamdriniaeth ar Twitter, bu iddi osod botwm panig yn ei chartref.

Astudiaeth Achos 3:

Yn 2012, arestiwyd Daniel Thomas wedi i neges homoffobig ddanfonodd ynghylch y deifwyr Olympaidd Tom Daley a Peter Waterfield yn feiryddol (‘viral’). Wedi ei arestio, ni chafodd Thomas ei erlyn gan fod y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP) wedi penderfynu nad oedd y neges “mor ddifrifol ymosodol i beru cyhuddiad troseddol yn ei erbyn” Aeth ymlaen i ddweud “Roedd hwn, yn ei hanfod, yn neges Twitter ymosodol unigol, wedi ei fwriadau ar gyfer teulu a ffrindiau, a ymlwybrodd i’r maes cyhoeddus. Nid y bwriad oedd i gyrraedd Mr Daley neu Mr Waterfield, nid oedd yn rhan o ymgyrch, nac yn fwriad i annog eraill a bu i Mr Thomas ei ddileu yn rhesymol o gyflym ac wedi dangos ei fod wedi dyfaru. Cyn dod i benderfyniad terfynol yn yr achos hwn, ymgynghorwyd â Mr Daley a Mr Waterfield gan Wasanaeth Erlyn y Goron a bu i’r ddau ddweud nad oeddynt o’r farn fod angen erlyn yr achos hwn.” Daeth y DPP i’r casgliad “Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffenomen sy’n dod i’r amlwg sy’n codi materion anodd o ran egwyddorion, sydd angen eu hwynebu nid yn unig gan erlynwyr ond hefyd gan eraill yn cynwys yr heddlu, y llysoedd a darparwyr gwasanaethau. Nid yw’r ffaith nad yw sylwadau ymosodol yn headdu erlyniad troseddol llawn yn angenrheidiol yn golygu na ddylid gweithredu.”

lower-banner_english

 

Ffynonellau Gwybodaeth Ychwanegol:

Gwefan True Vision: http://www.report-it.org.uk
Gellir riportio troseddau casineb arlein ac all-lein i’r heddlu drwy’r wefan hon

Ap ffôn True Vision: yma
Gellir riportio troseddau casineb arlein ac all-lein drwy’r ap ffôn symudol hwn

Fideo #TakeCareofYourDigitalSelf Prosiect Digital Wildfire: https://www.youtube.com/watch?v=5nXaEctiVhs

Mae’r fideo hwn yn rhan o becyn dysgu ar gyfer ysgolion er mwyn hyrwyddo aeddfedrwydd digidol a dygnwch ymysg pobl ifanc. Mae’r fideo wedi ei anelu yn arbennig at blant 9 i 13 mlwydd oed sy’n debygol o archwilio neu ddechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Fideo ‘Beth sy’n gwneud dinesydd digidol da ar y cyfryngau cymdeithasol?’ Prosiect Digital Wildfire: https://www.youtube.com/watch?v=kh1_7VVoq8g

Gofynodd Prosiect Digital Wildfire i bobl ifanc “Beth sy’n gwneud dinesydd digidol da ar y cyfryngau cymdeithasol?” Mae’r fideo yn dangos rhai o’r ymatebion.

Pecynnau Prosiect Ysgolion ar Drosedd Casineb gan Wasanaeth Erlyn y Goron: http://www.cps.gov.uk/northwest/working_with_you/hate_crime_schools_project/

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron, Undeb Cenedlaethol yr Athrawon a sawl grwp cymunedol wedu cydweithio i gynhyrchu ystod o ddeunydd ar drosedd casineb. Bu i ddisgyblion o ysgolion ar draws y wlad helpu i lunio y sefyllfaoedd a ddramateiddiwyd sydd wedi’u cynnwys yn y cyflwyniadau. Maent yn darparu pwyntiau cychwyn ar gyfer trafodaeth ac wedi’u seilio ar brofiadau bywyd go iawn o’r bobl ifanc gymrodd ran yn y prosiect. Mae gweithgareddau ystafell ddosbarth a chanllawiau i athrawon ar gael. Maent wedi eu dylunio i gynyddu dealltwriaeth disgyblion o drosedd casineb a rhagfarn ac yn eu caniatáu i archwilio ffyrdd o’i herio.

Cyfeiriadau a Darllen Pellach:

Burnap, P. and Williams, M. L. (2015) ‘Cyber hate speech on Twitter: An application of machine classification and statistical modeling for policy and decision making’, Policy & Internet 7(2), pp. 223-242.
Burnap, P. and Williams, M. L. (2016) ‘Us and them: identifying cyber hate on Twitter across multiple protected characteristics’, EPJ Data Science 5, article number: 11.
Hanes, E. and Machin, S. (2014) ‘Hate Crime in the Wake of Terror Attacks: Evidence from 7/7 and 9/11’, Journal of Contemporary Criminal Justice, 30:247-267.
King, R. D. and Sutton, G. M. (2014) ‘High Times for Hate Crimes: Explaining the Temporal Clustering of Hate Motivated Offending’, Criminology, 51:871-894.
Leets, L. (2001) ‘Responses to Internet Hate Sites: Is Speech Too Free in Cyberspace?’, Communication Law and Policy, 6:287-317.
Legewie, J. (2013) ‘Terrorist events and attitudes toward immigrants: A natural experiment’, American Journal of Sociology, 118:1199–245.
Levin, B. (2002) ‘Cyberhate: A Legal and Historical Analysis of Extremists’ Use of Computer Networks in America’, American Behavioral Scientist, 45:958-988.
Oksanen, A., Hawdon, J., Holkeri, E., Nasi, M. and Rasanen, P. (2014) ‘Exposure to Online Hate among Young Social Media Users’, in M. Nicole Warehime (ed.) Soul of Society: A Focus on the Lives of Children & Youth, 253-273. Emerald.
Perry, B. and Olsson, P. (2009) ‘Cyberhate: The Globalisation of Hate’, Information & Communications Technology Law, 18:185-199.
Williams, M. L. and Burnap, P. (2015) ‘Cyberhate on social media in the aftermath of Woolwich: A case study in computational criminology and big data’, British Journal of Criminology 56(2), pp. 211-238.

 

 CU  R&S  photo  esrc